Gan gyflwyno’r Rhaglen Multiply, wedi’i theilwra ar eich cyfer chi yma ym Merthyr Tudful.
Nod Multiply yw eich helpu i ddod yn fwy hyderus gyda rhifau. Fel rhan o'r rhaglen byddwch yn dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd cyfeillgar a rhyngweithiol a fydd yn gwneud y dysgu yn hwyl!
Rydym yn deall y bod dysgu yn brofiad mwy pleserus pan fydd tiwtoriaid croesawgar ac arbenigol wrth law. Mae ein tiwtoriaid lleol yn wybodus ac yn gyfeillgar, a byddent yn gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn cwestiynau ac am gymorth pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.
P'un a ydych yn un o'n dosbarthiadau personol neu'n cymryd rhan ar-lein, mae ein tiwtoriaid yno i'ch arwain trwy fyd rhifau. Maent yn ymroddedig i'ch llwyddiant, gan sicrhau eich bod yn deall y cyfan, gan roi'r amser sydd ei angen arnoch i ddod yn hyderus gyda rhifedd.
Gall y sgiliau newydd hyn hefyd fod yn help llaw i gefnogi eich plant gyda'u gwaith cartref, rheoli cyllideb eich cartref yn well, a rhoi'r hyder i gymryd camau ymlaen yn eich gyrfa.
Gorau oll, gellir cymryd y cyrsiau hyn wyneb yn wyneb neu ar-lein, felly gallwch chi ddewis y ffordd sy'n gweithio orau i chi. Dysgwch ar gyflymder sy'n addas i chi, gyda chymorth cymuned gefnogol o diwtoriaid lleol arbenigol a chyd-gyfranogwyr.
A'r geirios ar ben y deisen? Mae'r cyrsiau i gyd yn rhad ac am ddim!
Trwy gymryd rhan yn Multiply rydych yn adio sgiliau newydd wrth dynnu'r holl amheuaeth o amgylch rhifau.
Cofrestrwch heddiwYdych chi'n awyddus i ddysgu lefel eich sgiliau rhifedd presennol ac yn meddwl tybed a allech chi elwa o un o'n cyrsiau Multiply? Mae gennym y cwis perffaith i chi!
Cyn i chi wneud unrhyw ymrwymiadau i gwrs, ewch amdani a rhowch gais ar ein cwis cyflym.
Gallwch fesur lefel eich sgiliau a deall lle y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnoch.
Defnyddiwch y cwis fel eich cwmpawd personol i’ch tywys ar eich taith i ddod yn fwy hyderus gyda rhifau. Mae'n ffordd berffaith i ddechrau eich profiad gyda Multiply, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i'ch gallu a'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a pha gwrs sy'n iawn i chi.
Dechreuwch ar eich llwybr i hyder rhif a thynnu’r holl amheuaeth o amgylch rhifedd:
Dechrau’r cwisDrwy gymryd rhan, byddwch yn dod yn fwy hyderus yn eich gallu i weithio gyda rhifau mewn bywyd bob dydd, o reoli eich arian i helpu eich plant gyda gwaith cartref.
Gall gwell sgiliau rhifedd agor drysau i gyfleoedd gyrfa newydd a datblygiad yn eich swydd bresennol
Nid mater o wella eich sgiliau mathemateg cyffredinol yn unig yw Multiply. Mae'n ymwneud â datrys problemau a meddwl yn feirniadol. Mae'r sgiliau hyn yn eich galluogi i wneud gwell penderfyniadau, datrys problemau bywyd go iawn, a llywio bywyd dydd i ddydd yn haws.
Mae ein hystod o gyrsiau yn bosibl trwy gydweithrediad o dri sefydliad lleol sy'n ymroddedig i'ch llwyddiant. Mae’r partneriaid hyn, Dysgu Oedolion yn y Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Tydfil Training, a Chyngor ar Bopeth Merthyr Tudful, yn dod â chyfoeth o wybodaeth, profiad, ac ymrwymiad cryf i’ch cefnogi ar eich taith rhifedd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu rhaglen ddysgu amrywiol sy’n ymateb i anghenion a diddordebau dysgwyr. Rydym yn ymdrechu i sicrhau cyrsiau ansawdd sicr sydd wedi'u cynllunio i helpu unigolion i weithredu a symud ymlaen yn eu gwaith, gartref, ac yn eu cymunedau - gan eich annog a'ch cefnogi i fod y “fersiwn orau” ohonoch chi'ch hun.
Dysgu Oedolion yn y GymunedMae eich dyfodol yn dechrau yma - trawsnewid bywydau trwy gydweithio. Dros y 35+ mlynedd diwethaf mae Tydfil Training wedi helpu miloedd o bobl fel chi i wireddu eu breuddwydion, gwella eu bywydau a'u rhagolygon gyrfa. Rydym yn ymfalchïo mewn creu amgylchedd cefnogol a diogel i staff a chyfranogwyr, gan gynnig cyfle cyfartal i bawb.
Tydfil TrainingMae pobl yn dod atom gyda phob math o faterion. Efallai bod gennych chi broblemau arian, budd-dal, tai neu gyflogaeth. Efallai eich bod yn meddwl am gyngor cyfreithiol, angen help gyda phroblemau iechyd neu wedi cael eich camarwain gan hysbyseb amheus. Efallai eich bod yn wynebu argyfwng neu ddim ond yn ystyried eich opsiynau. Ein nod yw helpu pawb i ddod o hyd i ffordd ymlaen - ni waeth pwy ydych chi, beth yw eich sefyllfa, a pha bynnag broblemau y gallech eu hwynebu.
Cyngor ar BopethCysylltwch â'n tîm cyfeillgar a all eich rhoi ar ben ffordd