Merthyr Multiply - Storïau am lwyddiant

Storïau am lwyddiant

Hyd yn hyn, rydym wedi cael llwyddiant aruthrol wrth hybu sgiliau rhifedd a lles ariannol unigolion ar draws Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful!

Dyma gipolwg ar yr hyn rydym wedi'i wneud:

1,451

Cyfranogwyr

2,079

Oriau

3,042

Ymgysylltiadau

£97,735

Dyled wedi arbed

£21,529

Dyled wedi'i aildrefnu

£100,829

Incwm unigolion wedi'i uchafu

P'un a ydych am wella eich gwybodaeth rhifedd, rheoli dyled yn fwy effeithiol, neu gynyddu eich incwm i'r eithaf, mae ein rhaglen yn cynnig y cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lwyddo!

Peidiwch â cholli'r cyfle i elwa o'r un profiad trawsnewidiol sydd eisoes wedi newid bywydau llawer yn ein cymuned.

Gyda'n gilydd, gallwn greu cyfleoedd a chreu newid cadarnhaol i bara am oes.

Ymunwch â ni heddiw!

Cyn-filwyr Cwm Merthyr yn coginio gwledd gyda rhifau!

Mae Cyn-filwyr Cwm Merthyr, grŵp o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog, yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi llesiant, integreiddio cymdeithasol, a gwasanaeth parhaus cyn-filwyr ar draws Merthyr Tudful.

Yn adnabyddus ac yn annwyl ledled y Fwrdeistref oherwydd eu gwaith gwirfoddol, mae’r grŵp yn aml yn ymgymryd â phrosiectau cymunedol a thros y blynyddoedd wedi cefnogi prosiectau megis sefydlu gerddi synhwyraidd mewn ysgolion, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Afon Taf, ac adnewyddu strwythur coffa yn ysgol Pen Y Dre.

Er mwyn ennyn diddordeb eu haelodau, maent yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau ac maent bob amser yn chwilio am raglenni a digwyddiadau y gallant gymryd rhan ynddynt, gan alluogi eu haelodau amrywiol i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth. Felly roedd cyrsiau coginio a chyllidebu trwy Multiply Merthyr Tudful yn cyd-fynd yn berffaith i’r grŵp, esboniodd y Cadeirydd Errold Jones y rhesymau dros gysylltu â’r rhaglen:

Roedd estyn allan i Multiply Merthyr Tudful yn benderfyniad hawdd i rai o’n haelodau sy’n byw ar eu pen eu hunain ac sydd â chyswllt cyfyngedig, i roi cymorth iddynt baratoi prydau maethlon i’w hunain o’r dechrau bob dydd.

Roedd y cyrsiau, a ddarparwyd gan Diwtor Sgiliau Hanfodol Diane Newman-Jenkins, yn canolbwyntio ar goginio prydau maethlon gan ddefnyddio ffrïwr aer wrth ddarparu cymorth cyllidebu i helpu gyda chost gynyddol bwyd a gwella gwybodaeth gyffredinol am rifau’r mynychwyr.

“Mae’r cyrsiau coginio a chyllidebu rydym wedi’u cynnal gyda’r cyn-filwyr wedi bod yn llawer o hwyl ac yn rhoi boddhad mawr hefyd. Trwy deilwra’r cyrsiau wythnosol i’w hanghenion a’u diddordebau, fe wnaethon ni greu amgylchedd cefnogol lle gallent ddysgu, arbrofi, a thyfu gyda’i gilydd. Roedd cyfuno rhifau gyda choginio yn ffordd wych o roi cyngor ymarferol i’r grŵp – edrychaf ymlaen at ein sesiynau dal i fyny bob wythnos, rydym i gyd yn cael cymaint o hwyl! Mae’n amlwg, y tu hwnt i feistroli sgiliau coginio newydd, eu bod wedi dysgu arferion cyllidebu gwell ac wedi gwella eu gallu i gynllunio prydau bwyd a fydd o fudd mawr iddynt.”

Veterans Numeracy class

Wrth fyfyrio ar gymryd rhan yn y cyrsiau eu hunain, dyma oedd gan y cyn-filwyr Bill a Lynne i’w ddweud:

“Rwyf wedi elwa’n fawr o’r addysgu a gefais ar y cwrs, nid yn unig y coginio ond y cynllunio, cyllidebu a chwmnïaeth ar y cwrs. Rwyf wedi gallu trosglwyddo rhywfaint o'r wybodaeth i fy nheulu sydd hefyd yn dysgu. Mae wedi bod yn gwrs ardderchog.” Bill

“Mae gen i ddiddordeb mewn coginio a phan glywais i am y cwrs Ffrïwr Aer gymerais i le yn y grŵp ar unwaith. Er mawr syndod mae'r cwrs wedi adnewyddu fy niddordeb mewn ffyrdd eraill. Dwi nawr yn cynllunio bwydlen wythnosol, dwi nawr yn mesur cynhwysion mewn gramau yn hytrach nag owns. Mae fy sgiliau cyllidebu wedi gwella o ran prynu bwyd a sgiliau cartref. Mae ein hyfforddwraig Diane wedi ein hannog i fod yn fwy anturus wrth ddewis bwydydd. Diolch am y cyfle i ddysgu sgiliau newydd.” Lynne

Mae’r cymeradwyaethau hyn yn tanlinellu’r manteision diriaethol a brofir gan y ddau ddysgwr, gan atgyfnerthu gallu’r rhaglen i gefnogi pobl leol i wella eu gwybodaeth rhif.

P’un a ydych yn rhan o glwb lleol a all elwa o’n cyrsiau neu’n unigolyn sy’n dymuno ymuno â chymuned ddysgu hwyliog, hamddenol, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar heddiw a chychwyn ar eich taith i sgiliau rhifedd gwell.

Veterans Numeracy class
Equal Education Partners Logo Llywodraeth Cymru Logo Cyngor Merthyr Logo Cyngor ar Bopeth Tydif Training